top of page

Amdanom Ni

People on a Deck

Mae Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin (yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau arfordirol lleol, awdurdodau cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill) yn cydweithio i gydlynu rheolaeth strategol o arfordir De Cymru, rhwng Trwyn Larnog (Bro Morgannwg) a Phenrhyn Santes Ann (Sir Benfro), nawr ac i'r dyfodol. Mae'r Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT2) yn ddogfen bolisi  erydu arfordirol a rheoli perygl llifogydd lefel uchel, sy'n helpu i'n harwain yn y dasg hon.

Mae'r arfordir yn newid. Mae wedi bod ac fe fydd bob amser. Bydd newid hinsawdd a lefel y môr yn codi yn parhau i gynyddu'r perygl o lifogydd ac erydu ar yr arfordir, gan effeithio ar y mannau lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae. Felly efallai y bydd angen newid y ffordd y caiff amddiffynfeydd a'r arfordir eu rheoli yn y dyfodol.

Mae'r grŵp wedi'i nodi yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru fel sefydliad arweiniol ar gyfer pedwar mesur ac mae'n chwarae rhan weithredol fel aelod o Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru.

Ein Haelod Sefydliadau

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn dod yn aelod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Cloudy Ocean

Cysylltu â Ni

Diolch am gyflwyno!

Clive Moon

SCBCEG Cadeirydd y Grŵp Arfordirol

Clive Moon, Swansea and Carmarthen Bay Coastal Engineering Group Chair.

Hannah Richards

SCBCEG Swyddog Arfordirol

Hannah Barrow, Swansea and Carmarthen Bay Coastal Engineering Group Coastal Officer.
bottom of page