top of page
Cynllun Gweithredu SMP20
Er mwyn gweithredu Strategaethau'r Cynllun Rheoli Traethlin, mae gan Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin (GPABACh) gynllun gweithredu.
Pwrpas y Cynllun Gweithredu yw nodi'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn rhoi'r polisïau SMP2 ar waith. Mae hyn yn cynnwys yn bennaf sicrhau bod y polisïau SMP2 yn cael eu datblygu yn y tymor byr, ond hefyd i ddarparu sail strategol ar gyfer astudiaethau a chynlluniau manylach ar gyfer rheoli a/neu wella rheolaeth arfordirol.
Mae'r cynllun gweithredu yn ddeinamig, a bydd yn newid wrth i gamau gweithredu gael eu cwblhau, eu hychwanegu neu eu dileu.
Policy Scenario Areas
Ardaloedd Senario Polisi
Mae'r ardal SMP20 wedi'i rhannu'n 21 o Ardaloedd Senario Polisi.
Mae Ardal Senario Polisi yn ddarn o arfordir sydd â phrosesau arfordirol tebyg neu ryngweithiol, materion allweddol neu ddefnydd tir tebyg, neu sydd ag amcanion rheoli cymharol debyg.
Mae pob Ardal Senario Polisi wedi'i rhannu ymhellach yn Unedau Polisi.
Mae Uned Bolisi yn ddarn llai o arfordir sydd â phrosesau arfordirol tebyg neu ryngweithiol, ac asedau mewn perygl y gellir eu rheoli gyda'i gilydd yn effeithlon.
I weld yr ardaloedd senario polisi ar fap, cliciwch yma.
Dewiswch Ardal Senario Polisi isod i weld y Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal hon.
Action Plan
Cynllun Gweithredu GPABACh
Dewiswch Ardal Senario Polisi uchod i weld y Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal hon.
bottom of page