Cynllun Rheoli Arfordir ar gyfer y mortlin o St. Ann's Head yn Sir Benfro i Lavernock Point ym Bro Morganwg

Croeso

O 6 Fedi 2010 ymlaen byddwch yn gallu bwrw golwg dros y Cynllun Drafft Rheoli Traethlin a gallwch roi inni eich sylwadau yn eich llyfrgell leol, swyddfeydd y cyngor ac ar-lein. Bydd y sylwadau’n gorfod cael eu cyflwyno erbyn 6 Rhagfyr 2010. test test 2

WCMC - Crynodeb Gweithredol

Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT2) Trwyn Larnog i Bentir St Ann

SMP2 User Guide

Cwestiynau Cyffredin

Ymgynghoriad Cyhoeddus – Ffurflen Ymateb / Adborth (Word)

Ymgynghoriad Cyhoeddus – Ffurflen Ymateb / Adborth (PDF)

Mae Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin (sy’n cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol arfordirol, awdurdodau cynllunio, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydliadau eraill) yn cydweithio er mwyn ystyried beth yw’r ffyrdd gorau o reoli arfordir De Cymru, rhwng Trwyn Larnog, (Bro Morgannwg) a St Ann’s Head (Sir Benfro), nawr ac at y dyfodol hefyd. Dogfen bolisi rheoli erydiad yr arfordir a pherygl llifogydd, lefel uchel, yw’r Cynllun Rheoli Traethlin sy’n cael ei lunio ar hyn o bryd.

Mae’r arfordir wastad yn newid a bydd e wastad yn gwneud hynny i’r dyfodol. Bydd newid yn yr hinsawdd a lefelau’r môr sy’n codi o hyd, yn parhau i gynyddu perygl llifogydd ac erydiad yr arfordir a bydd hynny’n effeithio ar y mannau hynny lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae. Oherwydd hynny efallai y bydd rhaid newid y modd y mae’r amddiffynfeydd a’r arfordir yn cael eu rheoli yn y dyfodol. Trwy ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, mae’r Cynllun yn rhoi prawf ar ba mor gynaliadwy at y dyfodol yw’r amddiffynfeydd presennol o safbwynt cymdeithas, yr amgylchedd a’r economi.

Mae arnom angen eich cymorth chi er mwyn sicrhau bod y Cynllun Rheoli Traethlin yn realistig ac addas ac y gellir ei gyflawni. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y Cynllun Rheoli Traethlin yn mynd rhagddo am dri mis, a bydd yn dechrau ym mis Medi 2010 gyda chyfres o arddangosfeydd cyhoeddus a gynhelir mewn amryw fannau ar hyd yr arfordir (Y Barri, Porthcawl, Port Talbot, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Pentywyn, Dinbych-y-pysgod, Penfro ac Aberdaugleddau).

Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT2) Trwyn Larnog i Bentir St Ann

CRhT Arweiniad

Member Organisations