Prosiectau Grwpiau Arfordirol
Prosiectau a gynhelir ar y cyd gan Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin.
Yn 2023/24, cynhaliodd Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin broses symleiddio a rhesymoli camau gweithredu i sicrhau bod pob eitem o'r Cynllun Gweithredu yn cadw at egwyddorion CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, a Synhwyrol.
Mae Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin wedi bod yn cymryd rhan ym mhrosiect Gweithgor Coastal Communities (COCO) "Climate change risks to coastal communities, and their health and wellbeing", y Marine Climate Change Impacts Partnership (MCCIP), gan ymgysylltu â gwyddonwyr a chymunedau defnyddwyr terfynol i asesu risgiau a helpu i adeiladu gwydnwch.
Prosiectau sydd ar y gweill
Bydd unrhyw brosiectau sydd ar ddod yn ymddangos yma.

Prosiectau Aelodau
Prosiectau a gwblhawyd gan aelodau o Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin.
Cynllun Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion, Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn gofyn i wyddonwyr dinasyddion dynnu ffotograffau o'r arfordir o fowntiau ffonau symudol ar draws arfordir de Cymru.
Prosiectau sydd ar y gweill
Bydd unrhyw brosiectau sydd ar ddod yn ymddangos yma.
