Glan Môr Aberafan
Cynllun Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Y Cynllun
​
Cyn 2016, nodwyd Glan Môr a Phromenâd Aberafan yn asedau arfordirol a oedd angen gwaith atgyweirio brys, er mwyn darparu amddiffyniad digonol rhag llifogydd a stormydd arfordirol. Mae'r lleoliad wedi gweld datblygiad sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf trwy gyflwyno Sinema newydd, Lido Afan ac amrywiaeth o fwytai a chaffis. O ganlyniad, nodwyd bod y busnesau hyn, ynghyd ag ardaloedd preswyl Aberafan, Sandfields a Phort Talbot, yn ardaloedd perygl llifogydd yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o'r môr.
​
Cyfrannodd y ffactorau hyn at y cyfiawnhad dros ddatblygu cynllun adfywio o dan y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol, gyda'r bwriad o adeiladu llwybr mynediad llithrffordd newydd ac uwchraddio'r amddiffynfeydd arfordirol ar hyd tua 2.5km o lan môr Aberafan. Cafodd y cynllun ei gwblhau yn haf 2020.
​
Mae'r cynllun wedi dod â llawer o fanteision i'r ardal, gan gynnwys:
-
Gwella'n sylweddol yr amddiffynfeydd llifogydd ac erydu arfordirol i Bromenâd Aberafan.
-
Lleihau'r perygl o lifogydd i'r cymunedau cyfagos, sef Baglan Moor, Sandfields ac Aberafan.
-
Y gallu i reoli'r perygl o erydu yn well yn y dyfodol.
-
Cynyddu'r potensial ar gyfer datblygiad pellach.
-
Cyfrannu at adfywiad economaidd yr ardal leol.
Cyfanswm cost y cynllun oedd £3.3 miliwn a chafodd gyllid grant o 75% gan Lywodraeth Cymru a 25% gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Gwaith yn y Dyfodol
​
Fel gyda natur prosiectau amddiffyn yr arfordir, gall prosesau erydu fod yn gyfnewidiol ac yn heriol i'w rheoli. Felly, cynhelir archwiliadau cyfnodol ar y safle bob chwe mis. Mae'r archwiliadau hyn yn cael eu cynnal er mwyn nodi niwed a diffygion ar y llithrfa, argloddiau a chynalfuriau grisiau concrid. Bydd Corswellt ychwanegol yn cael ei blannu ger mynedfa'r llithrfa newydd er mwyn gwella sefydlogrwydd traethellau trwy rwymo'r tywod yn ei le. Bydd y gwaith plannu hwn yn cael ei wneud yn ystod haf 2024.
The Next Steps
​
Coming soon...