
CMAC CoastSnap
Mae Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion, Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn gofyn i wyddonwyr dinasyddion dynnu ffotograffau o'r arfordir o fowntiau ffonau symudol ar draws arfordir de Cymru.
Y Prosiect
Mae CoastSnap yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion byd-eang sy'n cael ei gynnal yng Nghymru gan Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru, sydd wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb y cyhoedd i ddogfennu newidiadau arfordirol ar draethau allweddol ledled Cymru. Trwy ddefnyddio mowntiau ffonau clyfar sefydlog mewn gorsafoedd CoastSnap dynodedig, gall ymwelwyr dynnu ffotograffau o'r draethlin a'u rhannu trwy god QR y safle neu’r wefan. Mae'r delweddau hyn yn cael eu crynhoi'n ddilyniannau treigl amser sy'n darparu tystiolaeth weledol o esblygiad arfordirol dros amser.
Defnyddiau'r Data
Mae'r prosiect yn helpu i fonitro erydu arfordirol, symudiad tywod, ac effeithiau newid hinsawdd, gan ddarparu data gwerthfawr ar gyfer dadansoddiad gwyddonol a rheoli arfordirol cynaliadwy. Mae cyfranogiad y cyhoedd yn ehangu cyrhaeddiad y prosiect, gan ei wneud yn offeryn effeithiol ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o ddeinameg arfordirol a meithrin cyfranogiad cymunedol mewn materion yn ymwneud â llifogydd ac erydu arfordirol. Mae'r fenter hon yn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau sy'n anelu at ddiogelu arfordir amrywiol a newidiol Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i CoastSnap.

CoastSnap yn Ne Cymru
Ar hyn o bryd mae 12 o safleoedd CoastSnap yn ardal SMP20:
Dwyrain Bae Whitmore
Gorllewin Bae Whitmore
Porthcawl
Gwarchodfa Natur Cynffig
Port Talbot
Campws y Bae Prifysgol Abertawe
Bae Langland
Pentywyn
Grisiau Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
Bandstand Dinbych-y-pysgod
De Aberllydan
Pont Werdd Cymru












