
Symleiddio Cynlluniau Gweithredu Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin
Yn 2023/24, cynhaliodd Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin broses symleiddio a rhesymoli camau gweithredu i sicrhau bod pob eitem o'r Cynllun Gweithredu yn cadw at egwyddorion CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, a Synhwyrol.
Y Dasg
​
Yn 2023, roedd Cynllun Gweithredu Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin yn cynnwys 428 o gamau gweithredu.
​
Bob blwyddyn, yn unol â Mesur 10 Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (RhPLlEA) ar gyfer Cymru, mae'n ofynnol i bob aelod o'r grŵp roi'r wybodaeth ddiweddaraf a rhoi sylwadau ar gynnydd y camau gweithredu hyn. Ar gyfer grŵp o 9 aelod, roedd hyn yn llawer o waith. Gyda Swyddog Arfordirol Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin dynodedig wedi’i benodi i’r swydd yn 2023, gallai'r grŵp nawr wneud cynnydd ar sicrhau bod y cynllun gweithredu hwn yn fwy cywir, yn gyfredol ac yn haws i'w reoli.
Y Broses
​
Yn 2023/24, gwnaeth Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin gynnal adolygiad cynhwysfawr i symleiddio ei gynllun gweithredu. Roedd yr ymdrech hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob gweithred yn cadw at egwyddorion CAMPUS, gan eu gwneud yn Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, a Synhwyrol. Gwnaeth y grŵp ddileu neu gydgrynhoi camau gweithredu dyblyg a throsglwyddo tasgau arferol i "Gofrestr Busnes fel yr arfer" ar wahân ar gyfer olrhain mwy effeithlon. Yn ogystal, nodwyd bylchau gwybodaeth, gyda chamau gweithredu wedi'u targedu, wedi'u hychwanegu i fynd i'r afael â'r rhain. Diweddarwyd camau gweithredu sydd wedi dyddio yn unol â chanfyddiadau'r Adroddiad Archwiliad Iechyd diweddar, gan wella cysondeb â Grwpiau Arfordirol eraill Cymru. Ymgynghorwyd â phob aelod o'r grŵp yn unigol i adolygu a diweddaru camau gweithredu sy'n berthnasol i'w rolau penodol, dileu'r rheini nad ydynt yn berthnasol mwyach, a chyflwyno camau gweithredu newydd yn ôl yr angen.

Y Canlyniad
​
Ers mis Tachwedd 2024, mae gan Gynllun Gweithredu Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin bellach 85 o gamau gweithredu llawer mwy rheoladwy ac ystyrlon. Bydd y nifer hwn yn newid dros y blynyddoedd nesaf wrth i aelodau gwblhau camau gweithredu, ac wrth i gamau newydd gael eu hychwanegu i gefnogi bylchau tystiolaeth, gwaith cynllun a chynllunio addasu.
​
Mae'r cynllun hwn bellach ar gael i'r cyhoedd, a gellir ei weld ar ein tudalen Cynllun Gweithredu SMP20.